Thomas Silk - Cystadleuaeth Minecraft Eich Amgueddfa 2020
Disgrifiadau
Fe wnaeth Cystadleuaeth 'Minecraft Eich Amgueddfa’ wahodd disgyblion ysgol 6-11 oed i ddefnyddio eu dychymyg i adeiladu eu hamgueddfa ddelfrydol o fewn Minecraft. Cafodd y gystadleuaeth ei lansio gan Amgueddfa Cymru - National Museum Wales yn ystod cyfnod clo COVID-19, er mwyn annog creadigrwydd a sgiliau digidol tra oedd disgyblion yn dysgu o gartref.
Crewyd yr amgueddfa hon gan Thomas Silk ym Mlwyddyn 2. Gwaith gwych, Thomas!
Mwy am amgueddfa Thomas: Dywed Thomas bod yr amgueddfa ar gyfer pawb, ac mae'n credu y bydd pobl yn hoffi ymweld oherwydd y gofod i ddysgu, ond hefyd er mwyn ymlachio mewn rhywle hardd. Mae Thomas yn dweud mai'r darm mwaf gwerthfawr yn y casgliad yw'r Enderdragon Egg, sy'n cael ei arddangos mewn blwch wrth i chi ddod mewn i'r amgueddfa. Mae'n bwysig gan mai hwn yw'r blocyn pwysicaf yn holl hanes Minecraft. Cafodd Thomas ei syniadau ar gyfer y cynllun a'r arddull trwy ymweld ag Amgueddfa Sain Ffagana thrwy ymweld yn rhithiol ag amgueddfeydd megis y Natural History Museum yn ystod y cyfnod clo.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment