Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Darllenwch fwy am y Drwydded Archif Greadigol.
This content isn't available for download, please contact us.
Disgrifiad
Dechreuodd y Terfysgoedd Hiliol yng Nghymru ym mis Mehefin 1919, yng Nghasnewydd a hynny ar y 6ed o Fehefin; ond ar 11 o Fehefin dechreuodd terfysgoedd yn y Barri Hefyd. Yma, yn y dref dociau hon y bu'r farwolaeth gyntaf yn y Terfysgoedd pan fu i longwr o'r Caribi drywanu dyn gwyn lleol wrth ymladd. Ond wnaeth marwolaeth y dyn gwyn (Frederick Longman) ddim i leddfu'r trais a ymledodd drwy'r dorf yn dilyn hyn, ond ni fu marwolaethau pellach.
Aeth Charles Emmanuel i'r carchar am ladd Longman.
Dyw'r bennod hon o'n hanes 'cudd' ddim yn cael ei ddysgu mewn ysgolion lleol.
Mae'n bosib bod y terfysgoedd hyn wedi bod yn drobwynt i forwyr a milwyr du, oherwydd er gwaetha'r ffaith fod y Wladwriaeth wedi ceisio dwyn perswad arnynt i gael eu hailwladoli (roeddent yn ddeiliaid Prydeinig ac nid oedd yn bosib yn swyddogol iddynt gael eu halltudio yn erbyn eu hewyllys),
ni wnaethant dderbyn y cynnig o docyn unffordd adref; penderfynodd y dynion a'u gwragedd gwynion aros, ac oherwydd hynny mae eu disgynyddion yn ddinasyddion Cymru. [Saesneg]
Sylwadau (0)
Rhaid mewngofnodi i bostio sylw