Brws yn hysbysebu siop B. R. Thomas, Talacharn
Disgrifiadau
Brws yn hysbysebu siop B. R. Thomas yn Raven House, Heol Wogan, Talacharn. Fe'i disgrifiwyd gan y diweddar Myfanwy Thomas fel " siop adrannol fawreddog ac anferthol". Roedd Mr Thomas hefyd yn berchen ar Thomas’ Hall, Duncan St. Yn y brif siop byddai'n gwerthu popeth o ddillad ffasiynol, deunyddiau, gwlan, sidan, nodwyddau a phinnau, a hyd yn oed celfi cegin, tsieina a sosbenni. (Nid annhebyg i Selfridges). Yn y storfa yn Duncan St byddent yn gwerthu paraffin, glo, offer ar gyfer yr ardd, sment a llechi.
Cafodd y siop ar y sgwâr ei chwalu er mwyn lledaenu'r ffordd yn yr 1930au, a sefydlwyd sgwâr yn dwyn yr enw Sgwâr Jiwbilîer mwyn dathlu jiwbilî aur y Brenin Sior V a'r Frenhines Mary."
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment