Disgrifiad

Cofrestr o'r bobl a ymfudodd i'r Wladfa ym 1875 trwy gymryd mantais o gynllun ymfudiaeth rad llywodraeth yr Ariannin. Yn ogystal â chynnig cludiad rad i bum cant o ymfudwyr, roedd y cynllun hwn hefyd yn cynnig tir ac arian ar gyfer costau cludiant ac ymsefydlu. Roedd y gofrestr hon, a luniwyd gan y Parch. Michael D. Jones, yn seiliedig ar restrau a baratowyd gan R. Powel ('Elaig'), Robert Hughes, a Francisco Torrone, Swyddog Ymfudiaeth i Weriniaeth Ariannin.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw