arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government
  • W. E. Bowen, Ffotograffydd, Glyn-nedd (1929-2012)

  • Gweld map
  • Use stars to collect & save items A vector image of star to represent action to save this item  mewngofnodi i gadw'r eitem hon

Disgrifiad

Ganed William E. Bowen (Billy) ar 31 Mai 1929. Bu ei rieni (fy mam-gu a fy nhad-cu), Emlyn a Gwendoline Bowen yn cadw siop trin gwallt yng Nglyn-nedd am nifer o flynyddoedd. Aeth fy nhad i'r ysgol yng Nglyn-nedd a gadawodd i weithio ym musnes y teulu yn 15 mlwydd oed, gan hyffroddi i fod yn farbwr. Priododd fy mam, Mair Jones, ar y 6ed o Ragfyr 1951; cefais i fy ngeni yn 1953, a dilynodd fy chwaer, Jean, yn 1953.
Pan oedd yn fachegen ifanc, treuliodd fy nhad lawer o amser gyda ffotograffydd Glyn-nedd, M. C. Chesterfield, ac mae'n debyg mai dyma pryd y cafodd ei ddiddordeb mewn ffotograffiaeth ei danio. Pan fu farw Mr Chesterfield, derbyniodd fy nhad ei gasgliad o luniau. Ar ôl priodi, byddai Dad yn mynychu’r clwb camera yng Nghastell-nedd yn rheolaidd, a chofrestrodd ar gwrs ffotograffiaeth yn y Barri er mwyn gwella ei sgiliau.
Mae ei gasgliad ffotograffig yn adlewyrchu ei ddiddordebau fel aelod o Gymdeithas Bysgota Glyn-nedd am flynyddoedd lawer, a hefyd Cymdeithas Hanes Glyn-nedd a Chwm-gwrach. Roedd dogfennu a chasglu lluniau yn ymwneud â phentrefi lleol yn bwysig iddo, ac mae ei gasgliad yn cynnwys nifer o ffotograffau a dynnwyd ganddo yn ystod wythnos olaf y gwaith cynhyrchu yn ffatri Rheola, Glyn-nedd ym mis Awst 1981 – y casgliad mwyaf o ffotograffau a dynnwyd ganddo ar un achlysur penodol.

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw