Disgrifiad

Cofnodion manwl a gadwyd gan R. J. Berwyn, Ysgrifennydd y Wladfa rhwng 1871 a 1872. Yn nyddiau cynnar yr ymsefydlu fe'i hetholwyd yn 1 o'r 12 aelod o'r cyngor i lywodraethu'r Wladfa ac ef oedd yr Ysgrifennydd. Cofnodai bopeth drwy gyfrwng y Gymraeg.

Ganed Richard Jones (Berwyn) yng Nglyndyfrdwy, Sir Feirionnydd. Treuliodd gyfnodau yn Llundain a'r Unol Daleithiau, ond dychwelodd i Gymru pan glywodd am gynllun y Parch. Michael D. Jones i sefydlu gwladfa Gymreig. Mabwysiadodd yr enw 'Berwyn' yn fuan wedi iddo ymfudo i Batagonia ym 1865.

Roedd R. J. Berwyn yn llenor ac yn gymeriad blaenllaw yn hanes y Wladfa. Ef oedd ei chofrestrydd genedigaethau, priodasau a marwolaethau, a bu hefyd yn gyfrifol am olygu papur newydd Cymraeg cyntaf y Wladfa, sef 'Y Brut' (1868). Daliodd nifer o swyddi cyhoeddus, gan gynnwys ysgrifennydd Cyngor y Wladfa, ysgrifennydd y llysoedd Cymraeg, postfeistr, ac athro. Gyda chymorth Thomas Pugh, lluniodd 'Gwerslyvr i Ddysgu Darllen at Wasanaeth Ysgolion y Wladva' (1878; ail argraffiad, 1881). Cyhoeddwyd ei almanaciau yn flynyddol hyd 1905.

Roedd R. J. Berwyn yn un o gefnogwyr teyrngar Lewis Jones a carcharwyd y ddau ohonynt ym 1882-3 am eu rhan yn yr ymgyrch i ddiogelu hawliau'r Cymry. Yn anffodus, collwyd cofnodion a'i ysgrifau hanesyddol Berwyn yn llifogydd 1899. Roedd yn frawd i William Lloyd Jones 'Glyn' a oedd hefyd yn byw yn y Wladfa.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw