Disgrifiad

Yn wreiddiol o Lanfechain, Maldwyn, roedd Richard Ellis a Frances ei wraig yn aelodau o'r fintai gyntaf a hwyliodd i Batagonia ym 1865. Ar ôl ymsefydlu yn y Wladfa ymfudasant i Batagones ac Uruguay cyn ymsefydlu yn y diwedd yn Rosario, talaith Santa Fe.

Cadwodd Richard Ellis y dyddlyfr hwn am gyfnod o 51 o flynyddoedd, o 1865 hyd 1916. Er nad yw'r dyddlyfr yn cynnwys llawer o fanylion, mae'r hyn a ysgrifennir ynddo yn rhoi cipolwg ar fywyd beunyddiol y Cymry yn y Wladfa. Cyfeirir at rai digwyddiadau pwysig yn hanes sefydlu'r Wladfa, megis glaniad y 'Mimosa' ar 28 Gorffennaf 1865, ymweliad cyntaf y bobl frodorol yn Ebrill 1866, a'r ymdrech gyson i sicrhau godi cnydau.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw