Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

David Stephen Davies (1841-98), brodor o Blas-marl, ger Abertawe, a ymfudodd i'r Unol Daleithiau ym 1857. Dechreuodd bregethu yno a chafodd ei ordeinio ym 1862, gan symud i ofalu am eglwys yn Efrog Newydd ym 1872. Yno, chwaraeodd ran flaenllaw yn y gwaith o hybu'r mudiad Gwladfaol ymhlith Cymry America. Ym 1874 penderfynodd ymweld â'r Wladfa, a gadawodd Efrog Newydd ynghyd â mintai fechan o ymfudwyr ar fwrdd yr 'Electric Spark' ym mis Chwefror y flwyddyn honno. Yn ystod y fordaith, fodd bynnag, cafodd y llong ei dryllio ger arfordir Brasil. Collwyd y llwyth o offer amaethyddol gwerthfawr ond llwyddodd y teithwyr i gyrraedd Buenos Aires, lle cawsant loches am gyfnod yng 'Nghartref yr Ymfudwyr', cyn cael eu cludo fesul dipyn ar y llong 'Irene' i Batagonia. Treuliodd D. S. Davies bedwar mis ym Mhatagonia, cyn dychwelyd i Gymru lle'r aeth ati i lunio adroddiad manwl ar y sefyllfa yn y Wladfa. Ymddangosodd yr adroddiad hwn yn wreiddiol ar ffurf cyfres o erthyglau yn 'Baner America', sef papur newydd Cymry America, ond fe dalodd Edwin Cynrig Roberts am eu cyhoeddi yn ddiweddarach ym 1875 ar ffurf pamffled. Mae'r adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am adnoddau naturiol Patagonia, ynghyd ag ystadegau poblogaeth ac arolwg o fywyd crefyddol y Wladfa. Wedi iddo ddychwelyd i Gymru, aeth D. S. Davies yn weinidog i Fangor ac, yn ddiweddarach, i Gaerfyrddin, lle bu farw ym 1898.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw