Llythyr oddi wrth Elizabeth Humphreys at Mrs Anne Jones, 1 Mehefin 1909 [tudalen 1, delwedd 1 o 4]
Disgrifiadau
Llythyr oddi wrth Elizabeth Humphreys, Trelew, at Mrs Anne Jones (gweddw'r Parch. Michael D. Jones), 1 Mehefin 1909. Dywed ei bod wedi gweld mab Mrs Jones, sef Mihangel ap Iwan, yn ddiweddar, ac mae'n amlwg ei bod yn ei edmygu. Yn dilyn y difrod a achoswyd gan lifogydd y blynyddoedd diwethaf, mae pethau yn gwella'n raddol yn y Wladfa a dywed fod y rhan fwyaf wedi hel alfalfa neu wenith eleni. Llwyddodd hithau i gael ei chnwd cyntaf ers i'w gwr farw wyth mlynedd yn l. Mae hi'n awyddus i sicrhau Mrs Jones nad oedd holl ymdrechion ac aberth ariannol ei gwr, Michael D. Jones, yn ofer. Gwelodd Llwyd ap Iwan yr wythnos flaenorol, pan ddaeth 'i fab hynaf i'r ysgol ganolradd yn Nhrelew.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment