Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Yn y ffotograff hwn gwelir rhai o'r Cymry a deithiodd i Batagonia ar fwrdd y Mimosa ym 1865. Tynnwyd y ffotograff 25 mlynedd yn ddiweddarach ac mae'n cynnwys rhai o aelodau mwyaf blaenllaw y Wladfa, megis Edwyn Cynrig Roberts, John Daniel Evans, Hugh Hughes (Cadfan Gwynedd) a R. J. Berwyn.

Mae enwau'r ymfudwyr a'r fan lle'r oeddynt yn hannu wedi eu rhestru fel a ganlyn yn llyfr Lewis Jones, 'Hanes y wladva Gymreig - Cymru Newydd yn Ne Amerig' (1898).

O'r chwith i'r dde, yn sefyll:
Mrs Amos Williams, Bangor; John ap Williams, Glandwrlwyd; Mrs L. Davies, Casnewydd; Mrs Hannah Jones, Aberdâr; Thos. Harri, Aberpennar; Mrs Rhys Williams, Brasil; R. J. Berwyn, Tregeiriog; C. Jane Thomas, Bangor; Mrs R. J. Berwyn, Pentir; L. Humphreys, Ganllwyd; Mrs W. J. Kansas, Aberdâr; Mrs Lewis Jones, Plas Hedd, Caergybi; M. Humphreys, Ganllwyd; Mrs W. R. J., Bedol, Bala; Mrs M. Humphreys, Cilcen; Mrs Rhydderch Huws, Bethesda; J. Harris, Aberpennar; Mrs M. Evans, Maesteg; Edwyn Roberts, Wisconsin; Mrs Edwyn Roberts, Aberpennar; Mrs Elizabeth Huws, Clynog; Mrs W. Austin, Llanuwchllyn; Mrs Ann Davydd, Aberteifi; Mrs Joshua Jones, Bangor; H. H. Cadvan, Rhostryfan.

O'r dde i'r chwith, yn eistedd (rhes gefn):
G. Huws, ieu., Llanuwchllyn; Rhys Williams, Nantyglo; J. Huws, ieu., Rhos; W. J. Huws, Rhos; William Austin, Merthyr Tudful; T. T. Austin, Merthyr Tudful; Dafydd G. Huws, Rhos; J. D. Evans, Aberpennar; Daniel Harris, Aberpennar.

O'r chwith i'r dde, yn eistedd (rhes flaen):
Ed. Price, ieu., Prestatyn; Richard Jenkins, Troedyrhiw; Ll. H. Cadvan, Lerpwl; Amos Williams, Llanbedrog; W. R. J. Bedol, Mawddwy; Richard H. Williams, Bangor; Robert Thomas, Bangor; Thomas Dafydd, Cilgerran; Richard Jones, Aberpennar; Griff. Huws, Llanuwchllyn; W T. Rees, Aberpennar; L. Davies, Aberystwyth; J. Moelwyn Roberts, Ffestiniog.

Y ffigwr a welir yn y cefndir, uwchben y gweddill, yw'r Parchedig D. Lloyd Jones.

Tynnwyd y ffotograff gan John Murray Thomas (1847-1924).

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw