arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government
  • Golygfa brudd o Gapel Celyn (Cwm Tryweryn), 14 Tachwedd 1963

  • Gweld map
  • Use stars to collect & save items A vector image of star to represent action to save this item  mewngofnodi i gadw'r eitem hon

Disgrifiad

Tynnwyd y ffotograff gan Geoff Charles. Yma gwelir Deiniol Prys Jones ar ei feic yn y pentref.

Ym 1955, cyhoeddodd Corfforaeth Lerpwl ei bwriad i adeiladu cronfa ddŵr newydd yng Nghwm Tryweryn, gan foddi pentref Capel Celyn, i'r gogledd o dref y Bala. Lansiwyd ymgyrch ddygn i wrthwynebu'r cynlluniau gan drigolion ac awdurdodau lleol, unigolion a sefydliadau cenedlaethol, ond er gwaethaf pob ymdrech ni lwyddwyd i rwystro'r datblygiad ac ar 1 Awst 1957 pasiwyd Deddf Corfforaeth Lerpwl. Dechreuodd y gwaith ar y safle dair mlynedd yn ddiweddarach ac fe gwblhawyd y cynllun ym mis Awst 1965.

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw