Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Grŵp o hen ymsefydlwyr yn sefyll ger 'yr amddiffynfa', yng Nghaer Antur, ger Rawson, Chubut, 28 Gorffennaf 1890. Tynnwyd y llun yn ystod dathliadau 'Gŵyl y Glaniad': ar 28 Gorffennaf 1865 y glaniodd y fintai gyntaf o ymsefydlwyr Cymreig ym Mhatagonia. Dyma'r fan lle'r ymsefydlodd y Cymry yn fuan wedi cyrraedd dyffryn Camwy ym 1865. Ym mlaen y ffotograff gwelir un o'r hen droliau gwreiddiol a gafodd ei gwneud gan Hugh Hughes (Cadfan Gwynedd) o goed hen long a ddrylliwyd yn aber Afon Camwy (Chubut).

Tynnwyd y ffotograff gan John Murray Thomas (1847-1924).

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw