Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Mae hysbyseb am y llety yma yn yr 'Aberystwyth Official Guide and Souvenir' agyhoeddwyd gan Gorfforaeth Aberystwyth. Nodwyd mai'r perchennog oedd Miss K. B. Lloyd, fod pob ystafell dderbyn yn wynebu'r môr a fod byrddau ar wahân yn yr ystafell fwyta fawr. Roedd Tŷ Fictoria yn un o dri tŷ gafodd eu adeiladu fel rhan o gynllun mawr arfaethedig J P Seddon i wella'r dref. Y bwriad oedd codi cilgant o 25 tŷ ond dim ond tri gafodd eu codi. Dechreuwyd godi'r tai ym Mehefin 1868 ac fe'u gorffenwyd ym 1871. Mae'r llechfaen uwch y drws yn nodi fod mai yma y bu Thomas Francis Roberts, Pennaeth Coleg Prifysgol Cymru 1891-1919, yn byw rhwng 1904 a 1919. Mae'r adeilad wedi ei gofrestru fel Adeilad Rhestredig Gradd II erbyn hyn.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw