Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.
Disgrifiad
Ganwyd Tegwyn Davies Jones ym Mhenbedw ym 1913. Ei rieni oedd Edward Peter a Mary Elizabeth Jones. Roeddynt yn byw ym Mhenbedw pan anwyd ef.
Deuai Edward Peter Jones o’r Rhyl, a pheiriannydd llongau oedd ef wrth ei alwedigaeth. O bentref Glyndyfrdwy y daeth ei fam, Mary, ac roedd yn ferch i Edward a Margaret Davies.
Pan oedd Tegwyn yn 8, bu farw’i fam, a symudodd ef i Lyndyfrdwy i fyw gyda’i daid a’i nain. Pan oedd yn ddigon hen, bu Tegwyn yn gweithio yn Chwarel Lechi Moel Fferna, yn ogystal â chynorthwyo ar ffermydd lleol. Wedyn, daeth yn weithiwr storfa yn y Llu Awyr Brenhinol yn Hucknall, Nottingham. Roedd Tegwyn yn rhan o Sgwadron 89.
Ar 12 Ebrill 1939, priododd Tegwyn â Blodwen Edwards o Gorwen.
Anfonwyd Tegwyn i Ffrainc ar yr RMS Lancastria.
Llong deithio o Brydain oedd yr RMS Lancastria a gymerwyd drosodd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Arweiniodd ei suddo at un o gyfrinachau propaganda mwyaf yr Ail Ryfel Byd.
Fe’i lansiwyd ym 1920 ar yr Afon Clud ar gyfer yr ‘Anchor Line’, ac roedd y Lancastria (yn wreiddiol y Tyrrhenia) yn chwaer long i’r RMS Cameronia. Aeth ei thaith gyntaf â hi o Glasgow i Montreal. Ar ddechrau’r Ail Ryfel Byd roedd y Lancastria yn y Bahamas. Fe’i gorchmynnwyd i hwylio o Nassau i Efrog Newydd er mwyn ei haddasu i fod yn HMT Lancastria – h.y. llong filwrol.
Wedi cymryd rhan yng ngwacâd Norwy a throsglwyddo’r milwyr i Ynys yr Ia, anfonwyd y Lancastria o Lerpwl i St Nazaire fel rhan o ‘Operation Ariel’ i ddod â phobl Prydain, a milwyr, o Ffrainc (roedd hyn bythefnos wedi gwacâd Dunkirk). Gallai’r Lancastria gario 3,000 petai raid. Gorchmynnwyd y Capten i gymryd cymaint ag y gallai, heb ofidio am gyfyngiadau Deddf Ryngwladol. Erbyn canol prynhawn 17 Mehefin roedd rhwng 4,000 a 9,000 ar y llong, gan gynnwys pobl y Llu Awyr Brenhinol, Milwyr Corfflu’r Arloeswyr a’r Gwasanaeth Byddin Brenhinol, a rhai dinasyddion preifat. Wrth i’r gwacáu fynd yn ei flaen, ymosododd Llu Awyr yr Almaenwyr ar y llongau a oedd wedi angori yn y porthladd. Yn ystod cyrch am 15.50 gan Junkers Ju 88, trawyd y Lancastria gan dri neu bedwar bom, a honnir yn aml i un ohonynt fynd drwy un o gyrn y llong, mewn i howld Rhif 4. Roedd gan y llong un bad achub ar bymtheg a 25 siaced achub, ond roedd nifer o’r badau wedi’u niweidio yn ystod yr ymosodiad. Suddodd y llong am 16.12.
Mae gan Gymdeithas Lancastria dystiolaeth bod 1,738 wedi marw, ond hwyrach na ddeuir byth i wybod faint yn union a gollwyd. Amcangyfrifir y gallai gymaint â 6,500 fod wedi marw, gan wneud hwn y golled fwyaf o fywyd yn hanes morol Prydain. Y cyfan a gafodd teuluoedd y rhai a fu farw ei wybod ar y pryd oedd eu bod wedi marw gyda Byddin Ymgyrchol Prydain.
Arweiniodd y golled enfawr o fywyd i Winston Churchill atal cyhoeddi hanes y trychineb ar unwaith, gan ddweud wrth ei staff fod y papurau newyddion wedi cael hen ddigon o drychineb y diwrnod hwnnw o leiaf. Yn ei atgofion, dywedodd Churchill ei fod wedi bwriadu codi’r gwaharddiad ychydig o ddyddiau’n ddiweddarach, ond arweiniodd amgylchiadau ef i gadw’r gwaharddiad. Ni chyhoeddwyd yr hanes yn swyddogol, felly, ym mhapurau’r Deyrnas Unedig hyd fis Gorffennaf, a hyd yn oed yr amser hwnnw, ni wybuwyd yn union beth a ddigwyddodd.
Roedd Tegwyn yn un o’r rhai a laddwyd. Ni wyddys union fanylion y digwyddiad. Cofir Tegwyn ar gofeb Glyndyfrdwy, a hefyd yn Eglwys y Bedyddwyr ble claddwyd ei deulu. Cofeb Runnymeade
yn Surrey yw’r Gofeb swyddogol i’r rhai a laddwyd. Gofelir am hon gan Gomisiwn Beddi Milwrol y Gymanwlad.
Derbyniodd Tegwyn fedal y Seren Aur am ei ran yn y ‘Battle of Britain’.
Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod
Sylwadau (0)
Rhaid mewngofnodi i bostio sylw