Gwrit gwysio y Parch. Michael D. Jones a'r Parch. D. Lloyd Jones, 21 Mehefin 1870 [delwedd 1 o 2]
Disgrifiadau
Mae'r ddogfen hon yn ymwneud â'r llong 'Myfanwy' a brynwyd gan Gwmni Ymfudol a Masnachol y Wladfa Gymreig ym 1869 .
Ym 1869, penderfynodd y Cwmni Ymfudol brynu llong at ddefnydd y Wladfa. Roedd Lewis Jones ac Edwin C. Roberts wedi bod yn ceisio perswadio'r Cwmni i gymryd y cam hwn ers tro, gyda'r bwriad o ddefnyddio'r llong at bwrpas masnachol yn Ariannin. Nid oedd aelodau'r Cwmni Ymfudol yn ffafrio'r syniad hwn, fodd bynnag, a'u bwriad hwy oedd defnyddio'r llong i gludo ymfudwyr o Gymru i Batagonia.
Daethpwyd o hyd i long 300 tunnell, a'i bedyddio'n 'Myfanwy' ar ôl merch Lewis Jones. Cytunwyd i dalu £2,700 amdani, a gwnaed y trefniadau ariannol yn enw Michael D. Jones. Talwyd £1,800 mewn arian parod, gyda £900 i'w talu ymhen y flwyddyn. Roedd angen addasu'r llong ar gyfer cludo teithwyr a chytunwyd ar bris o £300 gyda chwmni o Gasnewydd ar gyfer cwblhau'r gwaith.
Yn y cyfamser, aethpwyd ati i gasglu enwau darpar-ymfudwyr ar gyfer taith gyntaf y llong. Y bwriad oedd hwylio yn ystod yr hydref 1869, er mwyn cyrraedd y Wladfa mewn pryd i gynorthwyo gyda'r cynhaeaf ddiwedd Ionawr a dechrau Chwefror 1870. Fodd bynnag, nid oedd y llong yn barod mewn pryd. Yn wir, ni chafodd y gwaith ei gwblhau tan Chwefror 1870. Cafwyd ergyd arall i'r cynlluniau pan ddaeth yn amlwg nad oedd y llong wedi ei thrwyddedu i gario mwy nag 11 o deithwyr. Yn y pen draw felly, hwyliodd y 'Myfanwy' am Batagonia gyda llond dwrn o deithwyr ar ei bwrdd yn unig. Yn eu plith roedd Lewis Jones, ei wraig Ellen, a'u merch pedair oed, Myfanwy. Yn ystod y fordaith, ganed merch fach i'r teulu, sef Eluned Morgan (1870-1938), a ddaeth yn adnabyddus yn ddiweddarach fel un o brif lenorion y Wladfa.
Yn ôl yng Nghymru, roedd y fenter fawr yn prysur droi yn hunllef i'r Cwmni Ymfudol - ond roedd gwaeth i ddod. Oherwydd yr holl oedi a'r trafferthion, nid oedd y llong wedi cynhyrchu digon o incwm i dalu am ei lle. Mynnodd y cwmni llongau gael yr arian a oedd yn ddyledus iddynt, a chan mai yn enw Michael D. Jones y prynwyd y llong, ar ei ysgwyddau ef y disgynnai'r cyfrifoldeb ariannol. Methodd dalu'r ddyled, a chafodd ei wneud yn fethdalwr ar 13 Gorffennaf 1871.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment