arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government
  • Use stars to collect & save items A vector image of star to represent action to save this item  mewngofnodi i gadw'r eitem hon

Disgrifiad

Cafodd Ivor Gabriel Landsman ei anfon i'r carchar am iddo frwydro i amddiffyn Tre Biwt yng Nghaerdydd rhag y dorf o ddynion gwynion. Roedd ei amgylchiadau yn anarferol, yn ddyn croenddu a aned yn Butetown yn 1899, ac yn rhagflaenydd i sawl un a ddilynodd. Ymladdodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Ond cafodd ei ryddhau o'r fyddin ar sail iechyd ym mis Rhagfyr 1917 pan oedd yn 19 oed.
Dychwelodd gartref i Gymru ac ar ôl colli ei fam yn 1918, yn 1919 yn 20 oed safodd ei dir gan amddiffyn Butetown yn erbyn y dorf o ddynion gwyn a ymosododd arni, gan saethu at dri ohonynt. Am hynny fe'i dedfrydwyd i dair blynedd yn y carchar.
Mae'n cynrychioli llawer o'r hyn sy'n anarferol a hefyd yr hyn ddylid ei barchu ynghylch y Cymry newydd, y bobl groenddu a ddaeth o bob cwr o'r Ymerodraeth Brydeinig i ymgartrefu yn nhrefi'r dociau, i briodi a dechrau teuluoedd gyda menywod gwyn.
Roedd ei dad yn dod o ynys fechan Saint Eustatius yn India'r Gorllewin (yr Iseldiroedd), ac mae'n anhebygol ei fod yn adnabod ei deulu Caribïaidd. Yr hyn oedd yn anarferol amdano oedd ei fod wedi cael ei yng Nghymru ac fel y rhai a'i dilynodd bu'n ymladd i fod yn ddinesydd, i wneud bywyd iddo'i hun yno, ac i fod yn Gymro.
Mae'n cynrychioli llawer sy'n nodedig ynghylch pobl groenddu Cymru, a oedd yn amlwg yn ystyried eu hunain yn Gymry yn y lle cyntaf.

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw