Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Mae'r map sy'n dod gyda'r 'Borough Guide' a gyhoeddwyd tua 1905 gan Gyngor Tref Aberystwyth a Chwmni Edward J Burrows, yn dangos ysgol yn y lleoliad yma. Mae'r goflech sydd yn yr ysgol yn nodi i'r adeilad gael ei godi ym 1872-74 gan Thomas Davies, adeiladwr, i gynllun y penseiri Szlumper & Aldwinkle. Codwyd yr ysgol o ganlyniad i Ddeddf Addysg Forster, 1870, y cyntaf o sawl deddf a basiwyd rhwng 1870 a 1893 oedd yn gwneud addysg yn orfodol i blant rhwng 5 a 13. Sefydlwyd byrddau addysg lleol â chyfrifoldeb arolygu ysgolion a'r gwariant o arian cyhoeddus ar addysg. Credir mai'r ysgol yma oedd y cyntaf i gael ei hadeiladu ar anogaeth 'Bwrdd' addysg lleol, ac roedd yn darparu addysg anenwadol ar gyfer anghydffurfwyr. Ychwanegwyd at yr adeilad yn 1910 ac er nad yw bellach yn ysgol mae wedi ei gofrestru Gradd II, ac ar hyn o bryd mae'n cael ei drawsnewid i fusnesau a siopau.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw