Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Yn llyfryn yr 'Aberystwyth Official Guide and Souvenir' a gyhoeddwyd yn 1924 gan Gorfforaeth Aberystwyth, ceir hysbyseb hanner-tudalen ar gyfer Gwesty Brynawel gyda llun ohono. Mae'r hysbyseb yn datgan fod y gwesty yn 'Sefydliad Preswyl o'r Radd Flaenaf' gyda 'Pob Cysur Cartref' a 'Garej Hylaw'. D Herbert oedd y perchennog, yn pwysleisio'r ffaith fod y gwesty yn cael ei 'Gefnogi gan Ymwelwyr Trefedigol'. Mae'r adeilad nawr yn adeilad cofrestredig Gradd II, ac mae wedi cadw rhai nodweddion o'r cyfnod Sioraidd hwyr.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw