Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.
Disgrifiad
Mae'r map a gynhwysir yn nhywyslyfr y 'Borough Guide', a gyhoeddwyd tua 1905 gan Gyngor Tref Aberystwyth a Chwmni Edward J Burrows, yn dangos mai 'baddonau' oedd yr adeilad mawr ag iddo sawl adain yn y lleoliad yma. Roedd yma faddonau cyhoeddus ar gyfer dynion a bechgyn a hefyd i fenywod a merched. Newidiwyd yr adeilad yn sinema yn y 1920'au. Mae hysbyseb yn yr 'Aberystwyth Official Guide and Souvenir' a gyhoeddwyd gan Gorfforaeth Aberystwyth ym 1924, am yr 'Imperial Cinema' lle gellir gweld 'y ffilmiau gorau a mwyaf diweddar' sydd â 'thafluniad berffaith'. Danoswyd ffilmiau yn ddi-dor o 6yh tan 11yh. Petai'r tywydd yn wlyb byddai dwy sioe arall - am 11:30yb ac am 2:30yp. Roedd gan y sinema gerddorfa lawn, oherwydd ni ryddhawyd y ffilm 'siarad' cyntaf (The Jazz Singer) tan 1927. Adnabyddwyd y lle fel Sinema Conway (ac yn wreiddiol Y Theatr Fach). Dymchwelwyd yr adeilad yn y 1970'au cynnar ac adeiladwyd sinema'r Commodore yn ei le.
Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod
Sylwadau (0)
Rhaid mewngofnodi i bostio sylw