Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Nodir yn yr ''Aberystwyth Official Guide and Souvenir', â gyhoeddwyd gan Gorfforaeth Aberystwyth ym 1924, fod y Promenâd wedi cael ei ehangu rai blynyddoedd yng nghynt, o amgylch penrhyn y castell. Yn ogystal, mae'r tywyslyfr yn rhestru llawer o ystafelloedd preifat oedd ar gael yn y tai, rhifau 5, 6, 7, 9, 14, 15, 17, ac 18. Er enghraifft, roedd y tŷ Forteviot, rhif 6 Y Ro Fawr, perchennog Mrs Speller, yn cynnig 2 lolfa a 7 llofft, mewn lleoliad hylaw gerllaw Gerddi'r Castell. Roedd eraill, fel Miss Thomas, Brynarfor, 12 Y Ro Fawr yn amlygu bath â dŵr poeth ac oer. Golau trydan oedd Mrs T Williams, Eastnor, 18 Y Ro Fawr, yn ei gynnig fel nodwedd atyniadol i'r ystafelloedd.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw