Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Ceir llun a hysbyseb am y gwesty yma yn yr 'Aberystwyth Official Guide and Souvenir' a gyhoeddwyd gan Gorfforaeth Aberystwyth ym 1924. Ar yr adeg hynny roedd y gwesty wedi ei benodi gan yr AA, ac, yn ôl yr hysbyseb, wedi ei ailddodrefnu a'i ailaddurno drwyddo i gyd, gyda goleuadau trydan, prydau ardderchog a phrisiau rhesymol. Yn ogystal roedd gan y gwesty bysgotfa eog breifat o fewn cyrraedd hwylus i Aberystwyth. E G Wood oedd y perchennog.

Ym 1838 ail-fodelwyd yr adeilad i fod yn siop teiliwyr ar gyfer Burtons. Mae'r ffasâd yn y dull nodweddiadol Art Deco oedd i siopau Burtons. Erbyn tua 1932 roedd y cwmni wedi sefydlu ei adran bensaerniol ei hun, yn addasu neu/ac adeiladu siopau newydd i gynllun pensaerniol â sefydlwyd gan Henry Wilson. Gellir gweld meini sylfaen ar Ffordd y Môr sydd wedi eu harysgrifo gyda'r dyddiad ac enwau Raymond Montague Burton ac Arnold James Burton. Mae'r adeilad bellach yn Adeilad Rhestredig Gradd II.


Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw