Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Caleidosgop o liwiau yw'r disgrifiad a geir o draeth Aberystwyth yn y 'Borough Guide Book', a gyhoeddwyd gan Gyngor Tref Aberystwyth a Chwmni Edward J Burrows. Mae'r heidiau o ymwelwyr yn mwynhau Promenâd tua milltir a hanner o hyd (gan gynnwys yr estyniad newydd). Ar hyd Y Ro Fawr estynnir y cilgant o dai â golygfa dros y traeth. Mae gwelyau blodau'n harddu'r Promenâd ac mae digon o seddi i'w cael. Pan fo pen llanw, weithiau gellir gweld effeithiau'r môr yn arw, yn taro yn erbyn wal y môr. Ceir cerddoriaeth o safon yn ddyddiol yn y safle band. Ar y traeth mae'r plant wrth eu bodd yn chwarae, yn trochi yn y môr ac adeiladu cestyll tywod. Mae'r tywyslyfr hefyd yn nodi fod yno gerbydau ymdrochi ar gyfer pobl hŷn a chychod ar gyfer teithiau pleser yn y bae am bris rhesymol. Mae ymwelwyr yn aml yn casglu cerrig mân a cherrig prin sydd i'w cael ar y traeth ac yn mynd â nhw adref gyda nhw.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw