Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Mae'r 'Borough Guide', a gyhoeddwyd gan Gyngor Tref Aberystwyth a Chwmni Edward J Burrows
yn disgrifio fod adeilad palasaidd 'Coleg y Brifysgol' yn westy yn wreiddiol. Mae'r coleg yn sefyll ar gyn safle yr adeilad hardd Tŷ'r Castell, a gafodd ei gynllunio ar gyfer Uvedale Price ym 1794 gan John Nash ac a ffurfiai gnewyllyn Gwesty Tŷ 'r Castell. Dechreuwyd adeiladu'r gwesty ym 1864 i gynllun J.P.Seddon yn yr arddull Seisnig Gynnar ar gyfer yr entrepreneur rheilffordd Thomas Savin. Pan fethodd mentr busnes Savin, cafodd y gwesty ei roi ar ocsiwn ac yn y pen draw cafodd ei brynu am £10,000 gan hyrwyddwyr addysg uwch yng Nhymru. Cafodd yr adeilad anorffenedig ei drawsnewid mewn amryfal gamau yn ystod yr 1870au a'r '80au. Yn 1894, disodlwyd yr hen Dŷ'r Castell yn llwyr gan floc canolog newydd â gynlluniwyd gan C.J.Ferguson yn arddull y Frenhines Anne. Ar yr adeg y cyhoeddwyd y 'Borough Guide' roedd 600 o fyfyrwyr, merched a dynion, yn y Coleg. Roedd y merched yn aros yn y neuadd breswyl â agorwyd gan y Frenhines Alexandra ym 1896, a'r dynion mewn rhandai yn y dref. Ymysg y trysorau oedd gan y Coleg roedd nifer o luniau gwerthfawr wedi eu rhoi gan ŵr y daethpwyd i'w adnabod yn ddiweddarach fel G E J Powell o Nanteos ac eraill, amgueddfa ddiddorol iawn, a llyfrgell newydd - sef dechreuad yr hyn oedd i'w ddatblygu yn Lyfrgell Genedlaethol ymhen amser. Roedd gan ymwelwyr ganiatâd i weld tu mewn yr adeilad ac i ymweld â'r amgueddfa ar ddiwrnodau penodedig. Disgwylid iddynt wneud cyfraniad bach tuag at ffurfio 'Ysgoloriaeth Ymwelwyr'.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw