Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Mae'r map sy'n gynwysedig yn yr 'Aberystwyth Official Souvenir and Guide' a gyhoeddwyd gan Gorfforaeth Aberystwyth yn 1924 yn dangos Banc Lloyds yn y safle yma. Mae ffasâd yr adeilad yn dwyn dyddiad 1902. Sefydlwyd Banc Lloyds yn Birmingham ym 1765 gan John Taylor, gwneuthurwr botymau a Sampson Lloyd, cynhyrchydd a deliwr mewn haearn (oedd hefyd yn Grynwr). Ehangodd y banc a chymryd drosodd fusnesau bancio llai yn y 19ed a'r 20ed ganrif. Yn 1995, cyfunodd gyda'r Trustee Savings Bank a masnachu fel Lloyds TSB Bank plc rhwng 1999 a 2013. Yn 2009, yn dilyn yr argyfwng ariannol, cafodd Lloyds Banking Group ei ariannu gan y Llywodraeth Brydeinig. Cyfunwyd canghennau Lloyds TSB yn Lloegr a Chymru gyda changhennau Cymdeithasau Adeiladu Cheltenham & Gloucester a chyda busnes Lloyds TSB yr Alban i ffurfio banc newydd dan yr enw TSB Bank plc.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw