Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Byddai ymwelwyr i'r dre yn y cyfnod yr argraffwyd y 'Borough Guide' gan Gyngor Tref Aberystwyth a Chwmni Edward J Burrows, wedi gweld Clocdwr gwahanol i'r un sydd yno heddiw. Adeiladwyd clocdwr gwreiddiol Aberystwyth ym 1858 i ddynodi hen safle Neuadd y Gorfforaeth (adeiladwyd 1771, dymchwelwyd 1855). Codwyd y tŵr 62 troedfedd (18.8m) gan adeiladwr lleol, Mr Rodderick Williams a'i Fab, gyda'r rhan fwyaf o'r adeiladwaith wedi ei wneud o garreg Gymreig o chwarel leol oedd ym mherchenogaeth Roderick Williams. Cafodd Cloc y Tŵr ei addurno gyda charreg Bath, math o galchfaen a gyflenwyd gan Randall a Saunders o Gaerfaddon yng Ngwlad-yr Haf. Ariannwyd yr adeilad ei hun gan danysgrifiadau cyhoeddus ar gôst o £1,250. Fodd bynnag, yn 1956 datganwyd bod pen uchaf y tŵr yn beryglus ac felly fe'i dymchwelwyd. Codwyd y Tŵr Cloc presennol i ddathlu'r Mileniwm.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw