Disgrifiad

Dyma stori Edwin Titchener (1921-1998) (Uncle Eddie)a oedd yn reifflwr yn ystod yr Ail Ryfel Byd a rhannwyd gyda ni gan Craig Titchener.

Roedd Edwin Titchener yn fab i Ernest William Titchener ac Eliza Jane Titchener née Puddy. Ganed Edwin yng Nghas-gwent ar yr 2il o Ebrill 1921. Priododd Ann Hutchinson ym 1942 gan symud i Bont-y-pŵl ac yna Cwmbrân (gweler y 12fed a'r 13eg llun). Yn ystod y Rhyfel, gwasanaethodd Edwin yn y 7fed Bataliwn, Cameroniaid (Reifflau yr Alban) fel Reifflwr. Gallwch weld enghraifft o'r hyfforddiant a gafodd Edwin yn yr 11eg llun. Mae'n werth nodi hefyd bod y gatrawd wedi camsillafu cyfenw Ediwn (gweler y 10fed llun).

Yn ystod y Rhyfel, anfonodd Edwin (Uncle Eddie) lawer o lythyrau caru at ei wraig tra roedd yn gwasanaethu dros ei wlad. Yr unig anaf a ddioddefodd Edwin oedd anaf i'w ben-glin pan saethodd cêl-saethwr ato, plymiodd i'r llawr, gan lanio ar wydr oedd wedi torri! Ar ôl y Rhyfel, dychwelodd adref i Ann. Ni chawsant blant, ond roeddent yn gwpl perffaith ac fe dathlodd dros hanner can mlynedd yn briod nes i Ann farw ym 1995.

Roedd gan Edwin ddau frawd, Ivor Titchener (1918-1992) ac Ernest Elysee Titchener (1923-1984) (gweler llun 14). Symudodd Ivor i Bont-y-pŵl i fyw gydag Edwin am gyfnod ar ôl y Rhyfel (gweler delweddau 15-19). Priododd Ivor â Patricia Maskill ym 1941, ond byrhoedlog oedd y briodas oherwydd y perthynas rhwng Patricia a brawd iau Ivor, Ernest. Symudodd Ivor i'r Almaen i astudio celf ac wedyn i Awstralia lle, mewn llythyr at Edwin, dywedodd ei fod yn byw fywyd bohemaidd ac yn edrych am yr ystyr i fywyd. Nid oedd Edwin wedi gweld Ivor ers dros ddeugain mlynedd. Darganfuwyd yn ddiweddarach fod Ivor wedi marw ym mis Mai 1992.

Fel bachgen, roedd Ernest yn gweithio i siop Thomas yn Cas-gwent. Rhoddwyd ei enw canol Elysee iddo gan ei dad bedydd, er nad oes llawer yn hysbys amdano heblaw ei fod yn Ffrangeg / Canada a oedd yn ffrind i'r teulu. Priododd Ernest ag Ellen Davies ym 1952 a daeth yn dad i Pamela a Patricia (mam Craig). Mae gan Craig gitâr Ernest o hyd (gweler llun 21). Bu farw Ernest ar y 4ydd o Fehefin 1984, yn 60 mlwydd oed (Penblwydd Craig yn 7 mlwydd oed). Yn y llun olaf, gallwch weld Craig yn eistedd ar ben-glin ei dad-cu Earnest ym 1977.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw