Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Fel rhan o Brosiect Ymarferol y Diwydiannau Creadigol, bydd myfyrwyr cwrs y Radd Slfaen mewn Ffotograffiaeth yng Ngholeg y Cymoedd yn cyfrannu at archifau Casgliad y Werin Cymru er mwyn helpu i sicrhau gwell dealltwriaeth o bobl yng Nghymru yn yr 21ain ganrif. Y nod yw cael myfyrwyr i gydnabod eu hetifeddiaeth o fewn ffotograffiaeth yng Nghymru ond hefyd i ddangos yr hyn mae pobl Cymru yn ei gynrychioli yr 21ain ganrif.

Y syniad y tu ôl i'r casgliad hwn o ddelweddau oedd tynnu ffotograff o bobl sy'n hunanynysu o ganlyniad i gyfyngiadau ar symudiad y Llywodraeth a lledaeniad y coronafeirws.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw