Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Mae Robert H. Hughes, Ffestiniog, yn cychwyn ei lythyr trwy gadarnhau ei fod wedi derbyn nodyn Michael D. Jones. Yn unol â dymuniad Jones, fe aeth i lawr i Glanaber ond ni ddaeth o hyd i 'W. W.'. Mae'n bwriadu galw yno eto heddiw gan obeithio y bydd adref fel y gall drosglwyddo'r dderbynneb iddo. Mae ei fam a'i chwaer yn cofio yn garedig ato. Yn yr ôl-nodyn, dywed iddo weld 'W. W.' ond nad yw'n barod i roi ateb ynghylch yr arian. Mae'n awyddus i dderbyn rhyw fath o ddatganiad i egluro'r sefyllfa iddo.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw