Llythyr oddi wrth Dr Thomas Greene at y Parch. Michael D. Jones, 9 Mai 1865
Llythyr oddi wrth Dr Thomas Greene at y Parch. Michael D. Jones, 9 Mai 1865
Disgrifiadau
Yn y llythyr hwn, mae'r llawfeddyg Thomas Greene yn cynnig ei wasanaeth i'r Wladfa Gymreig am gyfnod o ddeuddeng mis ar y telerau canlynol: caban a thocyn teithio am ddim i'r Wladfa ar fwrdd y 'Mimosa', cyflog o ganpunt am y flwyddyn, ynghyd â llety a bwyd am ddim yn y Wladfa. Mae Michael D. Jones wedi arwyddo'r ddogfen i ddatgan ei fod yn cytuno i'r telerau uchod.
Am gyfnod byr yn unig y gwasanaethodd Thomas Greene fel meddyg y Wladfa. Gadawodd y Wladfa ym mis Tachwedd 1865, gan hwylio i Buenos Aires ar fwrdd y 'Mary Helen'.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment