Print torlun leino o Waldo Williams gan Paul Peter Piech
Print torlun leino o Waldo Williams gan Paul Peter Piech
Disgrifiadau
Print torlun leino o Waldo Williams gan Paul Peter Piech, yn cynnwys un o ddyfyniadau enwcoaf y bardd, "Daw dydd y bydd mawr y rhai bychain."
Roedd Waldo Williams yn heddychwr, yn genedlaetholwr, yn sosialydd ac yn un o feirdd Cymraeg mwyaf yr ugeinfed ganrif. Roedd yn wrthwynebydd cydwybodol yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ac fe’i carcharwyd ar ddechrau’r 1960au am wrthod talu’r dreth incwm fel protest yn erbyn Rhyfel Corea. Dail Pren oedd yr unig gyfrol o farddoniaeth i oedolion a gyhoeddodd yn ystod ei oes, ac adlewyrchodd amrywiaeth ac anwadalwch ei awen a'i fywyd, yr ysgafn digrif a'r ingol gymhleth fel ei gilydd.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment