arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government
  • Use stars to collect & save items A vector image of star to represent action to save this item  mewngofnodi i gadw'r eitem hon

Disgrifiad

Print torlun leino o Stevie Smith gan Paul Peter Piech.

Bardd a nofelydd Saesneg oedd Florence ‘Stevie’ Smith. Gweithiodd fel ysgrifenyddes am 30 mlynedd cyn ymddeol yn ei phumdegau wedi profi salwch meddwl drwy gydol ei bywyd. Cyhoeddodd sawl casgliad o ryddiaith a llythyrau ynghyd â bron i ddwsin o gyfrolau o farddoniaeth. Er bod ei cherddi yn ymddangos yn syml, roedd Smith yn fardd soffistigedig. Yr oedd ei gwaith yn ymwneud â dioddefaint a marwolaeth, ac yn aml byddai ei synnwyr digrifwch macabre yn syfrdanu, fel yn ei cherdd enwocaf, Not Waving But Drowning.

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw