Print torlun leino o Katherine Mansfield gan Paul Peter Piech ynghyd â dyfyniad o un o'i cherddi
Print torlun leino o Katherine Mansfield gan Paul Peter Piech ynghyd â dyfyniad o un o'i cherddi
Disgrifiadau
Print torlun leino gan Paul Peter Piech o Katherine Mansfield.
Roedd Katherine Mansfield yn awdures straeon byrion a bardd modernaidd amlwg o Seland Newydd, a ymgartrefodd yn Lloegr. O’i chyhoeddiadau cynnar mewn cylchgronau llenyddol i’w phum cyfrol o straeon cyhoeddedig cydnabuwyd Mansfield fel llenor gwreiddiol a hygyrch, ac yn un o arloeswyr yr avant-garde wrth greu’r stori fer. Torrodd ei chalon pan laddwyd ei brawd iau, Leslie, yn y Rhyfel Byd Cyntaf a daeth o hyd i gysur wrth gofio gwlad eu plentyndod. Trawsnewidiwyd yr atgofion hyn yn rhai o'i gweithiau gorau.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment