arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government
  • Use stars to collect & save items A vector image of star to represent action to save this item  mewngofnodi i gadw'r eitem hon

Disgrifiad

Print torlun leino gan Paul Peter Piech o Ezra Pound.

Ystyrir Ezra Pound fel un o feirdd Americanaidd mwyaf dylanwadol yr ugeinfed ganrif, a’r un sy’n gyfrifol am ddiffinio a hyrwyddo esthetig modernaidd mewn barddoniaeth. Ei brif gyfraniad i farddoniaeth oedd ei ddatblygiad o Imagistiaeth, a bwysleisiai eglurder, manwl gywirdeb delweddaeth ac ymadawiad wrth ffurfiau barddoniaeth gonfensiynol. Ynghyd â’i gyfraniadau sylweddol ei hun i farddoniaeth, datblygodd hefyd waith cyfoeswyr fel W. B. Yeats, Ernest Hemingway, Marianne Moore a T. S. Eliot.

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw