Skip to main content

'Traethodau ar Drevnusrwydd Teuluaidd' gan Esther Emment ac Eluned Morgan (Y Wladva, 1892) [clawr, delwedd 1 o 23]

Disgrifiadau

Llyfryn gan Esther Emment ac Eluned Morgan (1870-1938) a gyflwynir 'i sylw merched y Wladva ... yn y gobaith y bydd vel math o law-lyvr diymhongar iddynt, i helpu cadw eu cartrevi yn llyvn a deniadol, a chadw eu syniadau yn veddylgar a llariaidd'. Mae'r llyfryn hefyd yn cynnwys traethawd gan Mrs T. Williams, Tal-y-llyn (chwaer R. J. Berwyn), ar 'ddylanwad mam'. Cafodd yr ysgrifau hyn eu hysgrifennu yn wreiddiol ar gyfer eisteddfodau yn y Wladfa. Daeth Esther Emment i'r Wladfa ym 1891 a bu'n gweithio fel athrawes yn y Gaiman cyn dychwelyd i Gymru ym mis Mai 1892. Roedd Eluned Morgan yn ferch i Lewis Jones (1836-1904), un o arweinwyr y Wladfa. Bu'n amlwg ym mywyd diwylliannol a llenyddol y Wladfa ac fe gyhoeddodd nifer fawr o ysgrifau a llyfrau. Yn y fan hon, gellir darllen y 'Rhagymadrodd' gan Esther Emment a'r ysgrif gyntaf gan Eluned Morgan ar 'Drevnusrwydd Teuluaidd'.

Owner:
The Welsh Library, University of Wales Bangor Information Services
Crëwr:
Emment, E. & Morgan, E.
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Y Llyfrgell Gymrei
Copyright Details:
Y Llyfrgell Gymreig, Gwasanaethau Gwybodaeth Prifysgol Cymru Bangor 2004
Publisher Ref:
cnp00728
Eitem wedi’i llwytho:
12/4/2010
Date originally created:
1892
Gwelediadau:
1267
Ffefrynnau:
0

More items with these tags

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

Sylwadau (1)

Mrs. T. Williams "Talyllynn" was Mary Lloyd Jones married with Tomos Williams. She was sister of Richard Jones "Berwyn" and William Lloyd Jones "Glyn". Her children were Sarah, Elizabeth and Tudur. tha family moved to the Andes later. Sarah Williams (married with John Ap Hughes) is my Nain.

You must be logged in to leave a comment