Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Arhosodd Dug a Duges Efrog (Brenin Siôr V a'r Frenhines Mary yn ddiweddarach) gydag Arglwydd a Boneddiges Llangatwg yn yr Hendre ar ddiwedd mis Hydref - dechrau mis Tachwedd 1900.

Achlysur preifat oedd yr ymweliad brenhinol hwn, ond mae casgliad Rolls yn Amgueddfa a Chanolfan Hanes Lleol Nelson yn cynnwys nifer o ffotograffau o'r digwyddiad. Er bod yr ymwelwyr brenhinol ar ganol cyfnod o alar swyddogol wedi marwolaeth y Tywysog Christian Victor, a bod eu gweithgareddau cymdeithasol yn dawel, aeth Charles Rolls â'r Dug a'r Dduges ar wibdeithiau ac yn ôl pob tebyg dyma'r tro cyntaf i'r cwpl brenhinol fod mewn car.

Yn y ffotograff hwn, eistedda'r Dug wrth ymyl Charles sydd y tu ôl i'r olwyn. Yn y cefn mae Arglwydd Llangatwg a Syr Charles Cust. Saif Boneddiges Llangatwg yn y canol wrth y drws, gyda Marcwis Y Fenni ar ei hochr chwith, ar garreg y drws.

Roedd yr ymweliad brenhinol yn ddigwyddiad pwysig i deulu Llangatwg gan ei fod yn cadarnhau eu bod wedi esgyn i lefel uchaf y gymdeithas yn lleol. Gwnaethpwyd John Allan Rolls yn Farwn 1af Llangatwg ym 1895 a bu'n gwasanaethu fel Aelod Seneddol lleol a Maer Trefynwy. Roedd y teulu Rolls wedi dod yn fwyfwy llewyrchus yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac roedd eu cyfoeth yn seiliedig ar dir ac eiddo yn ne Llundain ac ystâd yr Hendre yn Sir Fynwy.

Roedd Charles Rolls yn awyddus iawn i ddatblygu car dibynadwy Prydeinig ac aeth ati i ffurfio partneriaeth gyda Henry Royce er mwyn gwireddu ei freuddwyd. Cyfarfu'r ddau am y tro cyntaf bedair blynedd wedi i'r llun hwn gael ei dynnu. Y 'Panhard 12hp' yw'r car a welir yn y ffotograff hwn.

Ffynhonnell:
Amgueddfa a Chanolfan Hanes Lleol Nelson

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw