Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Mae darlun Evans yn dangos glan y cei islaw pont Afon Gwy rywbryd ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Sied rhisgl yw'r storfa fawr ar lan y cei ar ochr chwith y llun. Cafodd rhisgl derw lleol ei brosesu a'i storio yma cyn ei gludo i lawr yr afon.

Ganed Evans ym 1854, a bu'n dyst i ddyddiau olaf y masnachu ar yr afon yn Nhrefynwy. Mae'n bur annhebygol iddo weld yr holl bethau sydd yn ymddangos yn ei beintiadau: efallai iddo seilio ei ddarluniau ar wybodaeth o luniau cynharach, neu ddisgrifiadau bobl hŷn. Mae'r llun hwn yn cynnwys manylion diddorol iawn ynglŷn â'r bont: gellir gweld y 'bowhauliers' ar y lan ac yn y basddyfroedd y tu hwnt i'r cwch.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw