Cleddyf ymladd Nelson a chleddyfau Cadlywydd Ffrainc a Sbaen o Drefalgar
Disgrifiadau
Ni wisgodd Nelson ei gleddyf (canol) yn Nhrefalgar, y fan lle y bu farw. Fe'i darganfuwyd yn ei gaban wedi'r frwydr ac fe'i hanfonwyd at y Foneddiges Hamilton. Cafodd ei drosglwyddo i ddwylo John Kinsey, cyn was yr Henadwr Smith, a dderbyniodd nifer o eitemau o eiddo Nelson. Ym 1847, ceisiodd Kinsey werthu'r cleddyf mewn papur newydd lleol. Bu'n aflwyddiannus, felly fe'i gwystlodd. Achubwyd y cleddyf gan dafarnwr yn Bushey ac fe'i drosglwyddwyd yn y pen draw i ddwylo Boneddiges Llangatwg.
Ildiwyd cleddyf y Llyngesydd Villeneuve (ochr dde), Pencadfridog Llyngesau cyfunol Ffrainc a Sbaen i'r Arglwydd Collingwood ar 21 Hydref, 1805. Ildiwyd cleddyf yr ôl-lyngesydd Cisneros o lynges Sbaen (chwith) ar yr un diwrnod.
Ffynhonnell:
Amgueddfa a Chanolfan Hanes Lleol Nelson
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment