Disgrifiad

Copi o waith Dafydd ap Gwilym (fl. 1315/20-1350-70) a wnaed gan Owen Jones (Owain Myfyr, 1741-1814) ym 1768. Ganed Owain Myfyr yn Llanfihangel Glyn Myfyr, Sir Ddinbych. Pan oedd yn fachgen ifanc symudodd i Lundain i fod yn brentis i grwynwr, ond ymhen blynyddoedd roedd wedi sefydlu ei fusnes llwyddiannus ei hun yn y ddinas. Yn ystod y cyfnod hwn daeth yn gyfeillgar â phobl fel Richard Morris (1703-79), un o sefydlwyr Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion ym 1751, ac mae'n amlwg i'r cysylltiadau hyn danio ei ddiddordeb ym maes llenyddiaeth Gymraeg.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw