Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

ioddefodd India golledion sylweddol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Gwasanaethodd dros 1,000,000 o filwyr Indiaidd dramor; bu farw 62,000 ohonynt a chlwyfwyd 67,000 arall.
Bu farw cyfanswm o oleiaf 74,187 o filwyr Indiaidd yn ystod y rhyfel. Yn ystody rhyfel byd cyntaf, ymladdodd Byddin India yn erbyn Ymerodraeth yr Almaen yn Nwyrain Affrica ac ar y ffrynt gorllewinol.
Roedd dynion Indiaidd hefyd yn rhan sylweddol o'r llynges Mercantile (a elwid yn y llynges fasnachol yn ddiweddarach). Yn anffodus ni allwn ddweud faint fu farw oherwydd i Lywodraeth Prydain ddinistrio'r cofnodion hynny ar ôl y rhyfel.
Newidiodd y sefyllfa yn India oherwydd ymdrechion cymdeithasol Mohandas "Mahatma" Gandhi, gan ddechrau yn India o 1915-1920 ac ymlaen, a chreu gweledigaeth boblogaidd ar gyfer India a ddechreuodd ledaenu ymysg Indiaid cyffredin.
I'r hinsawdd hon o alwadau am newid heddychlon y daeth y Masnachlongwyr oedd wedi eu hailwladoli dan orfodaeth o'r llynges fasnachol Brydeinig - milwyr oedd wedi eu dadrithio gan ymladd am ond a oedd am dderbyn rhyddid, a phobl yn India yn profi Deddfau gormesol a'r creulondeb harddangos yn y gyflafan Amritsar.
Dechreuodd India goelcerth o newid fu'n gyfrifol am lyncu a dinistrio'r Ymerodraeth Brydeinig ar ôl yr Ail Ryfel Byd.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw