arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government
  • Use stars to collect & save items A vector image of star to represent action to save this item  mewngofnodi i gadw'r eitem hon

Disgrifiad

I Americanwyr Affricanaidd, fe wnaeth yr Ail Ryfel Byd amlygu'r bwlch oedd yn lledu rhwng rhethreg yr Unol Daleithiau ynglŷn â'r "rhyfel i wneud y byd yn ddiogel i ddemocratiaeth" a realiti ffermwyr duon oedd wedi'u difreinio a'u hecsbloetio yn y de, neu drigolion tlawd oedd wedi ymddieithrio yn slymau'r gogledd.
Er gwaethaf dewrder ac aberth milwyr fel yr Harlem Hellfighters buan y dangoswyd bod cred deallusion fel W E B DuBois y byddai cymryd rhan yn y rhyfel yn arwain at gydraddoldeb gartref yn un wallus. Wrth i Americanwyr Affricanaidd sylweddoli nad oedd syniadau yr Arlywydd Wilson ynghylch "democratiaeth" yn ymestyn iddynt hwy, datblygodd awydd yn eu mysg i ymladd yn ôl gyda'i gilydd yn erbyn trais y dorf, yn hytrach na throi'r foch arall.
Roedd yr hiliaeth a'r trais a brofwyd gan bobl ddu yn arwain cyn-filwyr mewn dinasoedd gogleddol i greu grwpiau amddiffyn a hyd yn oed i osod saethwyr cudd ar doeau. Ar ôl hyn, doedd dim troi yn ôl i'r dyddiau o dderbyn gweithredoedd eraill yn dawel, neu drais a fyddai byth yn debygol o arwain at achosion llys, heb sôn am ddedfrydu hilwyr.
Yn 1919 gwelwyd atgyfodi'r KKK a'u tebyg, ac fe arweiniodd hyn hefyd at densiynau a allai fod wedi arwain at y mudiad y Black Panther.

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw