arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government
  • Use stars to collect & save items A vector image of star to represent action to save this item  mewngofnodi i gadw'r eitem hon

Disgrifiad

Yn ystod blynyddoedd cynnar y bedwaredd ganrif ar bymtheg, datblygodd y Drenewydd fel canolfan i'r diwydiant gwlanen. Er bod rhai agweddau o'r diwydiant – megis nyddu – wedi'u mecaneiddio, roedd gwehyddu'n parhau'n broses gâi ei gwneud â llaw ar y pryd. Cafodd dwsinau o adeiladau tri neu bedwar llawr eu codi, yn arbennig felly yn ardal Penygloddfa o'r dref, ac roedd gan lawer ohonynt fythynnod bach cefn wrth gefn ar y lloriau is. Ar y lloriau uchaf, roedd ystafelloedd agored, a oedd yn rhedeg hyd yr adeilad i gyd, yn darparu gofod ar gyfer y peiriannau gwehyddu lle byddai dynion, menywod a phlant yn llafurio i gynhyrchu brethyn gwlân o ansawdd da. Cymerodd George Morgan yr awenau yn Crescent Street Mills ar ddiwedd yr 1870au, ac erbyn hynny yr oedd y ffatrïoedd oedd yn defnyddio fframiau gwau â llaw yn cael eu haddasu i gael eu pweru gyda stêm. Gosododd George Morgan injan stêm yn ei ffatri ym mis Tachwedd 1881. Dinistriwyd yr adeilad hwn mewn tân yn 1938, ac erbyn hynny roedd cynhyrchu gwlanen yn y dref wedi dod i ben.

Rhoddwyd tocyn pres i bob gweithiwr yn y felin, wedi'i stampio'n unigol â'i rif ei hun, ac fe'i defnyddiwyd fel ffordd o wirio presenoldeb. Mae'n ymddangos yw'r enghraifft a welir yma wedi'i defnyddio, gan nad oes ganddi rhif ar y tocyn.

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw