arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government
  • Use stars to collect & save items A vector image of star to represent action to save this item  mewngofnodi i gadw'r eitem hon

Disgrifiad

Dau fotwm mawr un fodfedd yn perthyn i hen Heddlu Bwrdeistref Abertawe. Mae'n debyg eu bod yn rhai a osodwyd i gau blaen tiwnic yn y cyfnod Fictoraidd cynnar.
Botymau metel dau ddarn, ynghyd â dolennau gosod ar y cefn.

Ffurfiwyd Heddlu Abertawe yn 1835.

Mae'r manylion ar gefn y botymau hyn yn nodi Hebbert& Co London. Mae'r wybodaeth honno yn bendant yn cadarnhau iddynt gael eu cynhyrchu rhwng 1852 a 1895.

Ychydig yn wahanol o ran eu dyluniad, mae'n debyg iddynt gael eu cynhyrchu ar wahanol gyfnodau.

*Casgliad The Ross Mather Police Memorabilia of Wales Collection


Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw