Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Medaliwn a ddyfarnwyd i Pryce Jones, Arddangosfa Masnach y Byd Fienna, 1873

Dechreuodd Pryce Jones, brodor o'r Drenewydd, ei yrfa fel prentis i frethynnwr ond daeth yn arloeswr busnes archebu trwy'r post ac adfywiodd y diwydiant tecstilau yng nghanolbarth Cymru yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ef oedd un o'r entrepreneuriaid cyntaf i gydnabod potensial y system bost fyd-eang newydd a'r system reilffordd oedd yn prysur dyfu. O'i warws ysblennydd yn y Drenewydd, y Royal Welsh Warehouse, sefydlodd ymerodraeth fasnachu fyd-eang yn seiliedig ar frethyn gwlân Canolbarth Cymru. Arferai tri cherbyd rheilffordd arbennig redeg yn ddyddiol i Lundain Euston gyda nwyddau i'w cludo ymlaen i bob rhan o'r DU a'r byd. Cyflogai dros 300 o weithwyr yn uniongyrchol yn ei ffatrïoedd yn y Drenewydd a'r Trallwng a darparodd fywoliaeth, yn anuniongyrchol, i gannoedd o weithwyr eraill. Yn feistr ar gyhoeddusrwydd, elwodd ar nawdd benaethiaid coronog Ewrop. Byddai hefyd yn arddangos ei nwyddau yn yr arddangosfeydd masnach mawr yn Fienna, Sydney, Philadelphia, Paris a Berlin lle'r enillodd wobrau mawreddog am ansawdd ei gynnyrch. Yn anffodus, ni fu'r llwyddiant yn hirhoedlog, gan na allai canolbarth Cymru, yn y pen draw, gystadlu â chanolfannau tecstilau mwy effeithlon swydd Gaerhirfryn a swydd Efrog. Erbyn 1914, roedd diwydiant tecstilau canolbarth Cymru wedi dirywio'n ddim bron.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw