arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government

Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Dyma bennod 14 yn ein cyfres o bodlediadau sy'n ceisio egluro hanes Terfysgoedd Hiliol 1919 yng Nghymru gan eu rhoi mewn cyd-destun byd-eang. Tra oedd milwyr 'gwyn' oedd yn streicio ac yn cael eu harestio am wrthryfela, roedd ymdriniaeth yr Ymherodraeth Brydeinig o filwyr du yn sylweddolol wahanol, a'r gosb yn llawer mwy llym. Fe wnaeth pobl groenddu o fewn yr Ymherodraeth Brydeinig gyfrannu'n sylweddol at ymdrech y Rhyfel Byd cyntaf; yn arainnol, fe wnaethant gyfrannu miliynau o bunnoedd a hefyd anfon miliynau o filwyr. Cai milwyr o India'r Gorllewin ac Affrica eu defnyddio fel gweision ac ar gyfer llafurio. Byddai'r Fyddin Brydeinig yn eu trin yn uniongyrchol newn ffordd hiliol, gan amddifadu y rhan fwyaf ohonynt o'r cyfle i ymladd gan nad oeddent am i'r Almaenwyr eu dirmygu am fynd ar alw 'anwariaid' i'w helpu i ennill y rhyfel; bbyddent yn gorfodi milwyr du i gloddio toiledau ar gyfer milwyr gwyn
a charcharorion, yn ogystal â chario arfau i'r llinell flaen. Aeth y milwyr du ar streic ar ôl dod i ddeall nad oeddent yn cael codiad cyflog oherwydd eu hil, ac ar weiniodd hyn at i rai gael eu hanfon o flaen y criw saethu, ac i eraill gael eu carcharu.

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw