arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government
  • Use stars to collect & save items A vector image of star to represent action to save this item  mewngofnodi i gadw'r eitem hon

Disgrifiad

Recordiad o gyngerdd codi arian yn 1994 yn cynnwys Jason Howard a'r Seattle Welsh Choir, i gefnogi'r Gymanfa Ganu Genedlaethol Gymreig (nawr y North American Festival of Wales) yn Bellevue, Washington a drefnir gan gymdeithas Gymraeg Puget Sound. Roedd Jason, o Ddowlais yng Nghymru, yn Seattle yn chwarae'r brif ran yng nghynhyrchiad Opera Seattle o The Pearl Fishersand. Gwirfoddolodd Jason i fod yn rhan o gyngerdd codi arian, cynnig a gafodd ei dderbyn ar unwaith gan y Pwyllgor trefnu a Bwrdd Swyddogion Cymreig Puget Sound. Cynhaliwyd y cyngerdd yn Eglwys Bresbyteraidd Lake City ar 8 Mai, 1994. Roedd yn gyngerdd poblogaidd a chafodd ei recordio gan Jackie Cedarholm gyda'i Walkman cludadwy a daeth yn rhan o'n harchifau. Cafodd y gwaith digido a golygu ei wneud gan aelod o'r Gymdeithas, Evans Paschal ac yn dilyn hynny fe wnaeth Alan Upshall olygu pob darn er mwyn dod â'r cyngerdd at ei gilydd fel un ffeil. Mae'r cyngerdd hefyd yn cael ei archifo fel darnau unigol yn psw01058. Mae'r cyflwyniadau a'r gymeradwyaeth wedi'u dileu. Ystyrid y cyngerdd yn uchafbwynt ym mywyd y Seattle Welsh Choir. Cafwyd rhai darnau gydag aelod o'r côr, Cynthia Taylor yn chwarae'r ffliwt. Mae'r poster cyhoeddusrwydd a'r rhaglen ar gyfer y cyngerdd yn ffeil Rhif psw00666 yn yr archif hon.
Mae'r recordiad hwn yn ffeil Rhif PSW01058 yn yr archif hon ac yn y Welsh Heritage Archive (gweler isod).

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw