Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.
Disgrifiad
Plât crwn o haearn bwrw y byddid yn crasu bara a theisennod arno, er bod tystiolaeth mai o garreg oedd yr enghreifftiau cynharaf. Fel rheol, ‘roedd clust ar yr ymyl i’w gario ac fe’i cynhesid uwchben tân agored. Fe’i rhoid i orffwys naill ai ar drybedd dros dân ar y llawr neu ar ffrâm arbennig i’w hongian uwchben y tân. 'Gradell' yw'r enw arno yn y gogledd a rhannau o Geredigion; 'planc' yw gair y de-orllewin; tra defnyddir 'mân' (maen) a 'llechwan'(llechfaen) yn y de-ddwyrain.
Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod
Sylwadau (4)
Rhaid mewngofnodi i bostio sylw