arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government
  • Use stars to collect & save items A vector image of star to represent action to save this item  mewngofnodi i gadw'r eitem hon

Disgrifiad

Roedd Alfred Russel Wallace yn fforiwr, naturiaethwr, awdur, daearyddwr, athronydd ac anthropolegydd Fictorianaidd. Cafodd ei eni ym Mrynbuga, Gwent, yn 1823. Faeth ei addysg ffurfiol i ben pan oedd yn dair-ar-ddeg oed,
ond eto fe wnaeth ei ddiddordeb yn y byd naturiol a'i awydd ysol i ddysgu a darganfod ei ysgogi i ddod yn un o feddylwyr esblygiadol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gan wneud cyfraniad enfawr i wyddoniaeth ac i ddatblygiad theori esblygiad. Cyhoeddodd theori esblygiad drwy ddetholiad naturiol gyda Charles Darwin yn 1858 a thrwy ei ymchwiliadau eang ym Maleisia, Indonesia a'rAmason daeth yn un o arbenigwyr pennaf dosbarthiad daearyddol rhywogaethau.

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw