Alfred Russel Wallace yng Nghastell-nedd, Panel Arddangos 6 o 9
Disgrifiadau
Roedd Alfred Russel Wallace yn fforiwr, naturiaethwr, awdur, daearyddwr, athronydd ac anthropolegydd Fictorianaidd. Cafodd ei eni ym Mrynbuga, Gwent, yn 1823. Faeth ei addysg ffurfiol i ben pan oedd yn dair-ar-ddeg oed, ond eto fe wnaeth ei ddiddordeb yn y byd naturiol a'i awydd ysol i ddysgu a darganfod ei ysgogi i ddod yn un o feddylwyr esblygiadol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gan wneud cyfraniad enfawr i wyddoniaeth ac i ddatblygiad theori esblygiad. Cyhoeddodd theori esblygiad drwy ddetholiad naturiol gyda Charles Darwin yn 1858 a thrwy ei ymchwiliadau eang ym Maleisia, Indonesia a'rAmason daeth yn un o arbenigwyr pennaf dosbarthiad daearyddol rhywogaethau.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment