Heddwas rhif 133 James Emrys Williams
Disgrifiadau
Ffotograff o Heddwas 133 James Emrys Williams o Heddlu Morgannwg. Cafodd y llun ei dynnu yn 1925 pan oedd yn gwasanaethu ym Mrawdlys Morgannwg, Caerdydd. Mae'r siefron sengl ar ei lawes yn dynodi mai Cwnstabl 2il ddosbarth ydoedd ar y pryd.
Hefyd i'w weld mae 'belt croes' Heddlu Morgannwg, ac mae'r math sy'n cael ei wisgo gan Emrys yn cael eu defnyddio'n benodol ar achlysuron arbennig, megis bod ar ddyletswydd yn y Brawdlys.
Cafodd yr helmed ei chyflwyno i Emrys rai blynyddoedd yn ddiweddarach, yn 1933. Yn ystod ei flynyddoedd o wasanaeth gwyddys iddo wasanaethu yn Adran 'E' neu Dociau y Barri ac yn Adran 'A' neu Adran Aberdâr. Fe wnaeth hefyd gyrraedd safle Sarjant Gweithredol.
Cafodd ei eni yn 1901, a hanai o Geredigion yn wreiddiol. Dechreuodd ei yrfa yn yr heddlu yn Noc y Barri ac yn nes ymlaen symudodd i ardal Aberpennar, lle bu'n byw pan ymddeolodd.
Mae pob eitem yn eiddo i mi, ac yn rhan o'r casgliad Ross Mather Police Memorabilia of Wales Collection.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment