Dai Nicholas - Clwb Pêl-droed Merthyr Town FC
Disgrifiadau
Cerdyn uchafbwynt ar gyfer Dai Nicholas, Merthyr Town yn ystod 1921. Ganed David Sidney Nicholas yn Aberdâr ar 12fed o Awst 1897 a dechreuodd ei yrfa yn chwarae pêl-droed yn Ysgol Uwchradd Sirol Aberdâr cyn ymuno gyda chlwb pêl-droed Merthyr Town trwy Goleg Sir Gâr yn ystod Awst 1918. Gwnaeth Dai 46 ymddangosiad a sgoriodd 2 gôl yn ystod ei unig dymor yn Penydarren Park yn 1920/21. Yr oedd ar y ffordd i Stoke yn Ebrill 1922 a gwnaeth 54 ymddangosiad yno gan sgorio 3 gôl yn ogystal cyn gadael i ymuno gyda Aberaman Athletic ym mis Awsst 1924. Gwnaeth Dai Nicholas' symudiad arall dri mis yn ddiweddarach ac yr oedd ar ei orau pan arwyddodd i chwarae gyda chlwb Swansea Town lle gwnaeth 151 ymddangosiad ac 14 o goliau cyn dychwelyd yn 1930. Fe wnaeth Dai Nicholas hefyd gynrychioli Cymru 3 gwaith yn ystod ei gyfnod ar gae'r Vetch. Bu farw yn 1982.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment